ALB Crew - Rhyl
ALB Crew - Rhyl
About Us
Mae Gorsaf Bad Achub yr RNLI yn Rhyl yn chwilio am wirfoddolwyr i ymuno â’r tîm presennol fel aelod o Griw Bad Achub pob Tywydd
Gorsaf Bad Achub y Rhyl, a sefydlwyd ym 1852, yw un o’r gorsafoedd prysuraf yng Nghymru. Cwblhawyd y tŷ cychod newydd yn 2001 ac mae’n gartref i fad achub pob tywydd a bad achub y glannau.
Yr effaith y byddwch yn ei chael
Bydd y rôl hon yn ein helpu i achub bywydau ar y môr trwy sicrhau bod ein badau achub yn barod bob amser a thrwy fod yn aelod o griw’r bad achub ar wasanaeth ac wrth ymarfer, dan orchymyn Coxswain.
Yr hyn y byddwch yn ei wneud
- Dilyn hyfforddiant a chynnal eich cymhwysedd o dan y Fframwaith Cymhwysedd, fel y bo’r angen, i gyflawni rôl aelod o griw
- Bod ar alwad i fynd ar ‘achubiaethau’ y bad achub
- Mynychu ymarferion
- Cyfrannu at gynnal a chadw’r orsaf, y badau achub a’r offer yn gyffredinol
Dysgwch fwy (gan gynnwys y gofynion) am fod yn wirfoddolwr gorsaf bad achub
Yr hyn y bydd arnoch ei angen ar gyfer y rôl hon
- Y gallu i weithio mewn tîm
- Cyfathrebwr da
- Ffitrwydd cyffredinol
- Y gallu i ddysgu sgiliau newydd
- Byw neu weithio yn agos at yr orsaf a rhwng 18 a 65 oed
Yr hyn y byddwch yn ei gael
- Ymuno â sefydliad cynhwysol ac amrywiol
- Cael hwyl, cyfarfod â phobl newydd ac ymuno â thîm brwdfrydig ac uchel ei gymhelliad sy’n gwneud gwahaniaeth
- Dysgu sgiliau a chael profiad i wella’ch CV
- Cael boddhad trwy roi rhywbeth yn ôl
- Bydd hyfforddiant i gyflawni’ch rôl wirfoddoli yn cael ei ddarparu a bydd mân dreuliau rhesymol yn cael eu had-dalu
About Us
The RNLI’s Lifeboat Station in Rhyl is looking for volunteers to join the existing team in the role of All Weather Lifeboat Crew.
Established in 1852, Rhyl Lifeboat Station is one of the busiest stations in Wales. The new boathouse was completed in 2001 and houses both an all-weather and an inshore lifeboat.
The impact you will make
This role will help us save lives at sea by ensuring that our lifeboats are in a state of permanent readiness and crewing the lifeboat on service and exercise, under the command of the coxswain.
What you will be doing
- Undertake training and maintain Competency Based Training as necessary to fulfil the role of crew member
- Be on call for lifeboat ‘shouts’
- Attend exercises
- Contribute to the overall upkeep of the station, lifeboats and equipment
Find out more about becoming a lifeboat station volunteer
What you need for this role
- Team player
- Good communicator
- General fitness
- Ability to learn new skills
- Live or work within close proximity of the station and be between 18 and 65 years of age
What’s in it for you
- Join an inclusive and diverse organisation
- Have fun, meet new people and join a motivated and enthusiastic team who are making a difference
- Learn skills and gain experience to enhance your CV
- Gain the satisfaction of giving back
- Training to fulfil your volunteer role will be provided and reasonable out of pocket expenses reimbursed